send link to app

Amser


4.4 ( 9664 ratings )
Игры Образование Обучающие Словесные
Разработчик Atebol Cyfyngedig
бесплатно

Y gêm ydy cwblhau’r cwestiynau mor gyflym ag sy’n bosib … cyn i’r cloc dy guro!
Mae 6 gêm i’w chwarae:
• Faint o’r gloch ydy hi?
• Tua...bron yn...yn union
• ...y bore...y prynhawn...y nos
• Pryd?
• Posau
• Faint o’r gloch ydy hi yn...?
Mae 3 haen o fewn pob gêm, mae haen 2 yn anoddach na haen 1. Mae Haen 3 yn anoddach na haen 2. Rhaid i ti ateb y cwestiynau trwy glicio ar y bocsys ar waelod y sgrin.
Rwyt ti’n ennill pwyntiau am bob ateb cywir. Rwyt ti’n colli pwyntiau am bob ateb anghywir!
Ar ôl ateb y cwestiwn yn gywir bydd ‘tic’ yn ymddangos wrth ymyl yr ateb. Bydd y cwestiwn nesaf yn dilyn. Mae’n rhaid cael 6 allan o 10 yn gywir i agor yr Haen nesaf - dyma sut mae symud ymlaen i Haen 2 ac yna i Haen 3.
Rwyt ti’n cael bonws am ateb cwestiwn yn gywir. Os wyt ti’n ateb y 10 cwestiwn cyn i’r cloc dy guro rwyt ti’n ennill bonws amser.
Wyt ti angen help? Mae seren oren ar ochr chwith y sgrin i helpu … ond rwyt ti’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.
Os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr ar y sgôrfwrdd ar ddiwedd y gêm.